A wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i gydweithio gyda Chyngor Sir Gaerfyrddin i gynnal astudiaeth dichonloldeb ar gyfer llwybr seiclo i Gwm Gwendraeth?
Wedi'i ateb gan Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth | Wedi'i ateb ar 03/07/2020
Byddaf yn cyhoeddi cynlluniau llwyddiannus y Gronfa Teithio Llesol ar gyfer 2020-21 cyn bo hir.
Rydym yn darparu cyllid teithio llesol i awdurdodau lleol ar sail y cynlluniau a’r pecynnau o gynlluniau y maent yn eu cyflwyno fel blaenoriaethau o blith y llwybrau ar eu Mapiau Rhwydwaith Integredig. Byddwn yn helpu awdurdodau lleol i ddatblygu eu set nesaf o Fapiau Rhwydwaith Integredig, a ddisgwylir ym mis Medi 2021.