WQ80538 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/06/2020

Faint o swyddi gwag o ran staff y Comisiwn yn 2019 a gafodd eu llenwi gan ymgeiswyr o gymunedau lleiafrifoedd ethnig?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 07/08/2020

Mae cynyddu'r gynrychiolaeth BAME yn ein gweithlu yn flaenoriaeth ar gyfer y Comisiwn.

Yn ôl Cyfrifiad 2011, mae 6.8 y cant o'r bobl sy'n economaidd weithgar ac sy'n gweithio yn Ardal Teithio i'r Gwaith Caerdydd yn ystyried eu bod yn bobl dduon neu leiafrifoedd ethnig. Yn 2019-20, cawsom 64 cais gan bobl sy'n ystyried eu bod yn BAME; mae hyn wedi cynyddu ers y flwyddyn flaenorol, ac roeddent yn cynrychioli 7.1 y cant o’r holl geisiadau. Roedd 3 ymgeisydd BAME yn llwyddiannus yn eu cyfweliadau a chynigiwyd cyflogaeth iddynt.

Mae'r Comisiwn yn casglu ei ddata ac yn adrodd arnynt yn unol ag adroddiadau’r flwyddyn ariannol (Ebrill-Mawrth), a bydd yn cyhoeddi ei ddata diweddaraf yn ffurfiol ym mis Gorffennaf 2020.

Rydym yn cydnabod y gallwn wneud mwy o hyd i gynyddu’r gynrychiolaeth BAME yn ein gweithlu. Yn ystod 19/20:

  • rydym wedi creu partneriaethau newydd i dargedu ein hymdrechion recriwtio ac adolygu ein brand recriwtio i sicrhau ei fod yn fwy cynhwysol. Yn sgil hynny, arweiniodd ein gwaith allgymorth ac ymgysylltu yn ystod ein Cynllun Prentisiaeth yn ddiweddar at gynnydd o 48 y cant yn nifer yr ymgeiswyr BAME.
  • llofnodwyd y Siarter Hil yn y Gwaith.
  • enillodd ein prentis BAME cyntaf wobr Prentis y Flwyddyn y Gynghrair Sgiliau Ansawdd.
  • rydym wedi gweithio gyda Busnes yn y Gymuned Cymru i nodi camau gweithredu i gynyddu’r gynrychiolaeth BAME.
  • trwy ein holl rwydweithiau, gan gynnwys REACH, cawsom hyfforddiant pwrpasol i Gadeiryddion a hyfforddiant Datblygu Rhwydweithiau, ac ailfrandiwyd a lansiwyd Rhwydwaith REACH gyda thri chyd-gadeirydd newydd yn gweithio mewn partneriaeth â'r uwch-dîm arwain.

Yn 20/21 byddwn yn:

  • parhau i weithio gyda Busnes yn y Gymuned Cymru i ddatblygu ein cynllun gweithredu i fynd i’r afael â’r dangynrychiolaeth yn ein gweithlu. Mae hyn yn cynnwys cefnogi ein cydweithwyr BAME presennol i gyflawni eu potensial a hefyd sicrhau ein bod yn cymryd camau priodol i ddenu'r ystod ehangaf a mwyaf amrywiol o dalent i ymgeisio am swyddi gyda ni.
  • rhoi system recriwtio ar-lein ar waith a fydd yn caniatáu inni gyrraedd mwy o amrywiaeth o ymgeiswyr a pharhau i ganolbwyntio ar waith allgymorth i adeiladu ar ein partneriaeth gymunedol.
  • trwy ein huwch hyrwyddwr ar gyfer cydweithwyr BAME a REACH, ein rhwydwaith cydraddoldeb yn y gweithle ar gyfer Hil, Ethnigrwydd a Threftadaeth Ddiwylliannol, parhau i godi proffil y rhwydwaith, yn fewnol ac yn allanol.
  • ymgorffori'r gwaith hwn mewn strategaeth ehangach i fynd i'r afael â thangynrychiolaeth yn ein gweithlu drwy ddatblygu strategaeth ddenu, sy'n cynnwys yr holl nodweddion gwarchodedig.
  • archwilio ffyrdd y gallwn godi ymwybyddiaeth o waith Comisiwn y Senedd, a chyfleoedd gyrfa, gyda chymunedau BAME yn lleol ac ar draws Cymru.

(Cyhoeddwyd ymateb y Comisiwn ar ôl marwolaeth Mohammad Asghar AS)