WQ80451 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/05/2020

Pa fodelu y mae Comisiwn y Senedd wedi'i wneud i sicrhau y gall Senedd Cymru ailagor a chydymffurfio â chanllawiau ymbellhau cymdeithasol?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 10/06/2020

Mae Comisiwn y Senedd yn paratoi cynlluniau a threfniadau manwl ar gyfer dychwelyd i'r ystâd.  Mae’r gwaith hwn yn digwydd ar sail y cyngor diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ar greu amgylchedd diogel a chadw pellter cymdeithasol. Mae gwaith penodol yn mynd rhagddo yn y Senedd a Thŷ Hywel ar arwyddion, trefniadau i gadw pellter diogel ym mhob ardal, ac o ran glanweithdra dwylo. Yn anochel, dim ond nifer cyfyngedig o ddefnyddwyr yr adeiladau a all fod yn bresennol yn yr ystâd ar unrhyw adeg, fel bod modd i ni gydymffurfio â’r canllawiau presennol ar gadw pellter cymdeithasol o 2 metr. Bydd Comisiwn y Senedd yn trafod y trefniadau hyn yn ei gyfarfod ar 15 Mehefin.