WQ80301 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/05/2020

Faint mae Llywodraeth Cymru wedi ei wario yn ychwanegol i wariant Llywodraeth y DU ar ymgyrch gwybodaeth i'r cyhoedd am yr argyfwng coronafeirws, drwy brynu gofod mewn cyhoeddiadau yng Nghymru?

Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol | Wedi'i ateb ar 05/06/2020

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i lawer iawn mwy o Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a cheisiadau am wybodaeth gan yr Aelodau na’r arfer, ac yn delio ag argyfwng iechyd y cyhoedd ar yr un pryd. Rydym yn gweithio’n galed i ymateb i bob cais am wybodaeth cyn gynted â phosibl. Serch hynny, mewn rhai achosion, gall fod oedi fel yn yr achos hwn. Byddaf yn ysgrifennu atoch i roi ateb o sylwedd i’ch cwestiwn, a fydd hefyd yn cael ei gyhoeddi yn y cofnod. Diolch i chi a’r Aelodau eraill am eich amynedd.