WQ80197 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/05/2020

A wnaiff y Comisiwn gadarnhau pwy a wnaeth y penderfyniad, a phryd y cafodd y penderfyniad ei wneud, i ychwanegu "commonly known as Senedd" ar ôl Welsh Parliament yng ngohebiaeth y Comisiwn?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 20/05/2020

Gwnaeth y Comisiwn benderfyniadau angenrheidiol i weithredu'r newid enw yn ei gyfarfod ar 27 Ionawr 2020.

Nododd y Comisiwn fod Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 ("y Ddeddf") yn dweud yn glir bod gan y sefydliad ddau enw o statws cyfartal, sef "Senedd Cymru" a "Welsh Parliament". Ar yr un pryd, mae’r Ddeddf, yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn cyfeirio at “Senedd” drwyddi draw, er enghraifft “Senedd elections”. Mae’r Ddeddf hefyd yn blaenoriaethu “Senedd” yn Saesneg mewn nifer o gyd-destunau penodol – gan gynnwys yr ôl-ddodiad ar gyfer Aelodau.

Roedd penderfyniadau'r Comisiwn yn estyniad o'r penderfyniadau polisi deddfwriaethol a wnaed yn ystod hynt y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) (fel yr oedd bryd hynny). Mae'r rhain bellach wedi’u hadlewyrchu yn y ddeddfwriaeth, lle defnyddir "Senedd" yn lle "Assembly" a "National Assembly for Wales" yn y rhan fwyaf o gyd-destunau. O ran y confensiwn enwi ysgrifenedig, mae ein penderfyniad yn parchu dymuniad yr Aelodau i gael enw cyfreithiol ffurfiol yn y ddwy iaith, tra'n normaleiddio'r defnydd o'r "Senedd" bob dydd. Roedd y Comisiwn o'r farn ei bod yn bwysig rhoi canllawiau clir a chyson ynghylch y polisi hwn.