WAQ80112 (w) Wedi’i gyflwyno ar 05/05/2020

Pa drafodaethau mae'r Prif Weinidog wedi eu cynnal ynglŷn â pha garcharorion fydd yn cael eu hystyried i'w rhyddhau'n gynnar o garchardai yng Nghymru?

Wedi'i ateb gan Y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip | Wedi'i ateb ar 05/06/2020

Rydym yn parhau i weithio gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ar yr ymateb i COVID-19 mewn carchardai ac i gefnogi’r posibilrwydd o ryddhau carcharorion yn gynnar.

Oherwydd y meini prawf caeth cyn rhyddhau ar gyfer unigolion sy’n cael eu rhyddhau o’r carchar ar drwydded dros dro, mae’r niferoedd hyd yma wedi bod yn isel, ond mae gwaith cynllunio yn parhau er mwyn trefnu i ryddhau mwy o garcharorion. Rwyf wedi cael sawl trafodaeth gyda’r Gweinidog Gwladol dros Gyfiawnder Lucy Frazer, gyda’r drafodaeth ddiweddaraf ar 04 Mai.