Pa gamau y mae'r Comisiwn wedi'u cymryd i ailflaenoriaethu ei gyllideb o ganlyniad i'r pandemig coronafeirws a pha newidiadau a wnaed?
Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 19/05/2020
Yn ei gyfarfod ar 4 Mai 2020, rhoddwyd briff i’r Comisiynwyr ar gamau gweithredu’r Comisiwn mewn ymateb i bandemig y coronafeirws, a thrafodwyd hynny. Roedd yr effaith ariannol ar gyllideb y Comisiwn, y gyllideb wirioneddol a’r gyllideb ragfynegol, yn rhan bwysig o’r drafodaeth honno.
Gan ein bod ar ddechrau’r flwyddyn ariannol, mae’n rhy gynnar i’r Comisiwn nodi unrhyw newidiadau penodol i ail-flaenoriaethu ei gyllideb ar gyfer 2020-21. Bydd y Comisiynwyr yn adolygu’r sefyllfa hon yn barhaus wrth i’r cyfyngiadau symud presennol ddechrau cael eu llacio.