WAQ79938 (w) Wedi’i gyflwyno ar 22/04/2020

A wnaiff y Gweinidog ddarparu adroddiad yn (i) amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i gefnogi'r wasg brint, gan gynnwys papurau newydd, yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus presennol a (ii) cadarnhau beth fu traweffaith y camau hynny hyd yma?

Wedi'i ateb gan Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Twristiaeth | Wedi'i ateb ar 01/05/2020

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi sefydliadau ar draws sectorau yn ystod pandemig y coronafeirws. Rydym wedi lansio Cronfa Cadernid Economaidd a hefyd gyllid ar gyfer sefydliadau o fewn y diwydiannau creadigol, y sector diwylliannol a’r sector chwaraeon gan fod COVID-19 wedi effeithio arnynt ar unwaith.

Mae cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y diwydiant cyhoeddi, sy’n cynnwys cyhoeddi deunyddiau Cymraeg, yn cael ei ddyrannu drwy Gyngor Llyfrau Cymru. Mae hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer Golwg 360, y gwasanaeth newyddion ar-lein dyddiol yn y Gymraeg a chymorth ar gyfer cyhoeddiadau newyddion a materion cyfoes Cymraeg eu hiaith sef Golwg, Y Cymro a Barn. Mae cyllid brys Cymru Greadigol yn cynnwys £150,000 ar gyfer Cyngor Llyfrau Cymru fel y gall gynnig cymorth allweddol i’r diwydiant cyhoeddi yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad agos â Chyngor Llyfrau Cymru o safbwynt anghenion y sector ac effaith y cymorth presennol. 

Ym mis Ebrill 2019 lansiodd Llywodraeth Cymru Gronfa Newyddiaduraeth Gymunedol Annibynnol a fyddai’n cynnig grantiau refeniw ar gyfer cyhoeddiadau sy’n aelodau o Rwydwaith Newyddion Cymunedol Annibynnol Cymru (ICNN). Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cymeradwyo cyllid grant brys drwy’r Gronfa hon ac mae swyddogion wedi cysylltu ag aelodau’r Rhwydwaith er mwyn rhoi manylion y cynllun iddynt. Mae rhai aelodau eisoes wedi dechrau derbyn y cyllid grant hwn.

Ers dechrau mis Mawrth mae Llywodraeth y DU wedi arwain ymgyrch gwybodaeth i’r cyhoedd ar draws y DU ynghylch COVID-19 ac mae wedi prynu llawer iawn o ddarpariaeth gan y cyfryngau ar draws y DU er mwyn cefnogi’r ymgyrch. Mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio’n agos â’n prynwyr arbenigol ym maes y cyfryngau ac mae’n ategu ymgyrch COVID-19 Llywodraeth y DU drwy brynu cyfryngau ychwanegol ar draws Cymru lle y mae bylchau wedi’u pennu. Byddwn hefyd yn cydweithio â’n hasiantaethau cyfathrebu er mwyn sicrhau bod teitlau papurau newydd yn cael eu cynnwys yng nghynlluniau holl ymgyrchoedd gwybodaeth i’r cyhoedd Llywodraeth Cymru ynghylch COVID-19.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i geisio adborth er mwyn asesu effeithiolrwydd ein hymyriadau cymorth.