WAQ79829 (e) Wedi’i gyflwyno ar 08/04/2020

Faint o staff Comisiwn y Cynulliad sydd ar seibiant o dan y Cynllun Cadw Swyddi Coronafeirws hyd yma a sut mae hyn yn cymharu â gweithlu’r Cynulliad o ran nifer a chanran, gan ddarparu nifer gwirioneddol y staff yn ogystal â’r rhai sydd cyfwerth ag amser llawn?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Cynulliad | Wedi'i ateb ar 24/04/2020

Atebwyd gan Y Llywydd, Elin Jones AC, ar ran Comisiwn y Cynulliad

Nid oes yr un aelod o staff Comisiwn y Cynulliad wedi’i roi ar ffyrlo o dan Gynllun Cadw Swyddi Coronafeirws hyd yma ac nid oes unrhyw fwriad i wneud hynny. 

Mae'r Comisiwn yn dilyn cyngor Llywodraeth y DU. Bydd y sefyllfa’n cael ei adolygu’n barhaus. Dyma ddetholiad o ganllaw a gyhoeddwyd gan Gyllid a Thollau EM :

Mae’r llywodraeth yn disgwyl na fydd y cynllun yn cael ei ddefnyddio gan lawer o sefydliadau sector cyhoeddus, gan fod y rhan fwyaf o gyflogeion yn y sector cyhoeddus yn parhau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol neu gyfrannu at yr ymateb i’r achos o goronafeirws. Os bydd cyflogwyr yn derbyn arian cyhoeddus ar gyfer costau staff a bod yr arian hwnnw’n parhau, rydym yn disgwyl i gyflogwyr ddefnyddio’r arian hwnnw i dalu staff yn y ffordd arferol – ac felly i beidio â’u rhoi ar ffyrlo.