Beth mae Llywodraeth Cymru am wneud i gynorthwyo teuluoedd sydd heb wasanaeth band eang er mwyn gweithio o adre, neu er mwyn cael addysg/arholiadau adref?
Wedi'i ateb gan Prif Weinidog | Wedi'i ateb ar 27/03/2020
Mae arian grant ar gael ar unwaith drwy ein cynllun Allwedd Band Eang Cymru i gefnogi costau gosod cysylltiadau band eang newydd.
Mae’r cynllun yn cynnig grantiau i ariannu (neu rannol ariannu) costau gosod cysylltiadau band eang newydd mewn cartrefi a busnesau ledled Cymru (ond nid yw’n cynnwys costau rhentu misol). Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy ffonio 0300 025 8887 neu e-bostio broadband@llyw.cymru