O ystyried y pryderon presennol ynghylch lledaeniad y firws COVID-19, pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o'r risgiau posibl i iechyd y cyhoedd sy'n gysylltiedig â chynnal wythnos o fusnes y Cynulliad yng ngogledd Cymru ym mis Mehefin 2020?
Mae'r Comisiwn wedi monitro'n agos y cyngor y mae Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth y DU wedi’i ddarparu wrth i'r sefyllfa o ran firws Covid-19 ddatblygu, ac mae penderfynu gohirio Senedd Clwyd.
Mae effaith amgylcheddol cyflawni Senedd Clwyd wedi bod yn ystyriaeth i fwrdd y prosiect, wrth i'r gwaith cynllunio ddatblygu, a dyna a fydd yn digwydd pan fydd paratoadau'n ailddechrau.
Yn amlwg, nid yw'n bosibl rhoi cyfanswm costau Senedd Clwyd ar hyn o bryd; fodd bynnag, nid fu newid yn yr ymrwymiad i gadw costau o fewn y gyllideb ar gyfer ymgysylltu ac allgymorth, a gytunwyd gan y Cynulliad ym mis Tachwedd 2019.