WAQ79552 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/03/2020

O ystyried yr argyfwng hinsawdd, a wnaiff y Comisiwn ddarparu manylion ynghylch sut a phryd y cafodd effaith amgylcheddol cynnal wythnos o fusnes y Cynulliad yn y Gogledd ym mis Mehefin ei hystyried gan y Comisiwn?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Cynulliad | Wedi'i ateb ar 09/04/2020

Mae'r Comisiwn wedi monitro'n agos y cyngor y mae Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth y DU wedi’i ddarparu wrth i'r sefyllfa o ran firws Covid-19 ddatblygu, ac mae penderfynu gohirio Senedd Clwyd.

Mae effaith amgylcheddol cyflawni Senedd Clwyd wedi bod yn ystyriaeth i fwrdd y prosiect, wrth i'r gwaith cynllunio ddatblygu, a dyna a fydd yn digwydd pan fydd paratoadau'n ailddechrau.

Yn amlwg, nid yw'n bosibl rhoi cyfanswm costau Senedd Clwyd ar hyn o bryd; fodd bynnag, nid fu newid yn yr ymrwymiad i gadw costau o fewn y gyllideb ar gyfer ymgysylltu ac allgymorth, a gytunwyd gan y Cynulliad ym mis Tachwedd 2019.