WAQ79541 (w) Wedi’i gyflwyno ar 05/03/2020

Beth fydd effaith y ffaith fod Flybe wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr ar hediadau Eastern Airways o Ynys Môn i Gaerdydd, gan gynnwys y bobl sydd eisoes wedi prynu tocynnau trwy Flybe?

Wedi'i ateb gan Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru | Wedi'i ateb ar 13/03/2020

Ni fydd y ffaith bod cwmni Flybe wedi mynd i’r wal yn effeithio ar deithiau awyr rhwng Caerdydd ac Ynys Môn. Cwmni awyrennau annibynnol yw Eastern Airways yr oedd ei wasanaethau yn cael eu gweithredu o dan frand Flybe o dan gytundeb masnachfraint. Eastern Airways yw’r gweithredwr awyrennau ar gyfer y daith awyr, a bydd yn parhau i weithredu ei holl wasanaethau. Byddant yn anrhydeddu’r holl archebion a wnaed drwy Flybe hyd ddydd Mawrth 10 Mawrth, a hynny er mwyn sicrhau y gall y bobl a oedd wedi archebu seddau deithio.