WAQ79500 (e) Wedi’i gyflwyno ar 26/02/2020

Beth oedd cyfanswm y gost i'r Comisiwn am gerfluniau o Gymru sy'n cael eu harddangos yn y Neuadd ar hyn o bryd?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Cynulliad | Wedi'i ateb ar 05/03/2020

Cyfanswm y gost i'r Comisiwn am y cerfluniau o Gymru sy’n cael eu harddangos yn barhaol yn y Neuadd oedd £11,000 + TAW. Dyfarnwyd y comisiwn i'r artist Angharad Pearce Jones yn dilyn ymarfer caffael yn ystod haf 2019. Mae gwella profiad ymwelwyr o’r Senedd yn rhan o Strategaeth Ymgysylltu ag Ymwelwyr y Comisiwn, a gymeradwywyd gan y Comisiynwyr.