WAQ79491 (w) Wedi’i gyflwyno ar 25/02/2020

A oes gan Lywodraeth Cymru gynlluniau i'w gwneud yn ofynnol i staff dysgu ysgolion annibynnol gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Addysg | Wedi'i ateb ar 04/03/2020

Mae'n ofynnol i bob ysgol annibynnol yng Nghymru fod wedi cofrestru gyda Llywodraeth Cymru. Er mwyn cofrestru mae'n rhaid i ysgolion annibynnol gydymffurfio â safonau ysgolion annibynnol. Mae gwaith eisoes wedi cychwyn ar ddiweddaru Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2003, bydd hyn hefyd yn cynnwys diweddaru canllawiau cofrestru a gweithredu ysgolion annibynnol i sicrhau eu bod yn cael eu cryfhau ac yn adlewyrchu'r canllawiau a'r arferion diogelu cyfredol. Byddwn yn bwrw ymlaen â hyn gyda rhanddeiliaid allweddol, a bydd y rheoliadau a'r canllawiau diwygiedig yn destun ymgynghoriad cyhoeddus maes o law. 

O dan adran 157 o Ddeddf Addysg 2002 rhaid i berchnogion ysgolion annibynnol gydymffurfio â chanllawiau statudol Cadw Dysgwyr yn Ddiogel at ddibenion cwrdd â safonau a nodir mewn rheoliadau ac arfer eu swyddogaethau mewn ffordd sy'n ystyried yr angen i ddiogelu a hyrwyddo lles o blant a phobl ifanc. Ar hyn o bryd mae fy swyddogion yn diweddaru'r canllaw hwn. Mae'r diwygiadau arfaethedig yn diweddaru'r canllawiau yn unol â newidiadau i ddeddfwriaeth, yn enwedig Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Bydd y canllawiau'n parhau i gefnogi ysgolion, colegau a lleoliadau addysg eraill, gan gynnwys ysgolion annibynnol i gael trefniadau diogelu cadarn yn lle. 

Mae Deddf Addysg (Cymru) 2014 yn nodi categorïau'r rhai yn y gweithlu addysg y mae'n ofynnol iddynt gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg. Er nad yw'r rhain ar hyn o bryd yn cynnwys y rhai sy'n gweithio yn y sector ysgolion annibynnol, rydym yn ystyried goblygiadau newid o'r fath. Ystyriaeth bwysig yw'r graddau y byddai newidiadau yn gofyn am ddeddfwriaeth sylfaenol a / neu eilaidd, a pha gamau fyddai eu hangen i ddeall yr effeithiau posibl, gan gynnwys trwy ymgynghori ffurfiol. Rwyf wedi cyfarwyddo fy swyddogion i roi cyngor imi ar wneud diwygiadau deddfwriaethol ynglŷn â'r rhai sy'n gweithio yn y sector ysgolion annibynnol.