A wnaiff y Comisiwn gadarnhau y caiff yr holl gostau ar gyfer symud y Senedd i ogledd Cymru eu talu'n ganolog heb amharu ar gyllideb bresennol Comisiwn y Cynulliad?
Wedi'i ateb gan Comisiwn y Cynulliad | Wedi'i ateb ar 05/03/2020
Roedd cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2020-21, a gymeradwywyd gan y Cynulliad ym mis Tachwedd 2019, yn cynnwys darpariaeth ar gyfer gweithgareddau ymgysylltu ac allgymorth. Bydd y costau a ysgwyddir gan y Comisiwn ar gyfer cynnal wythnos o fusnes yng ngogledd Cymru yn cael eu talu'n gyfan gwbl o'r ddarpariaeth hon.