A wnaiff y Comisiwn ddarparu manylion am y cyfarfodydd a gynhaliwyd gyda Heddlu Gogledd Cymru, yn ogystal â Chyngor Bwrdeistref Sirol Sir y Fflint, i ddarparu ar gyfer symud y Senedd i ogledd Cymru?
Wedi'i ateb gan Comisiwn y Cynulliad | Wedi'i ateb ar 05/03/2020
Mae'r paratoadau ar gyfer mynd â'r Cynulliad i ogledd Cymru wedi cynnwys trafodaethau gyda nifer o sefydliadau er mwyn deall pa leoliadau posibl allai leoli’r Cynulliad, a ydynt ar gael, cyfleusterau a hygyrchedd, ac mae’r trafodaethau hyn wedi cynnwys Cyngor Sir y Fflint. Yn amlwg, bydd diogelwch yn ffactor wrth gyflawni busnes yr wythnos, yn yr un modd ag yma yng Nghaerdydd, a chafwyd rhywfaint o drafodaethau cynnar gyda Heddlu Gogledd Cymru.