WAQ79475 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/02/2020

A wnaiff y Comisiwn ddarparu dadansoddiad o faint o staff y Comisiwn, Aelodau'r Cynulliad a staff diogelwch y disgwylir iddynt fynd gyda'r Senedd pan fydd yn symud i ogledd Cymru?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Cynulliad | Wedi'i ateb ar 05/03/2020

Ar hyn o bryd, rydym yn cynllunio'r trefniadau ar gyfer cyflwyno wythnos o fusnes y Cynulliad yng ngogledd Cymru; felly, rydym yn dal i weithio ar faint o staff y Comisiwn a staff Aelodau'r Cynulliad y bydd eu hangen ar y safle.

Trwy gynllunio, byddwn yn nodi faint o aelodau staff y Comisiwn a staff Aelodau'r Cynulliad y bydd angen iddynt fod yn bresennol yng ngogledd Cymru i sicrhau y caiff busnes yr wythnos ei gyflawni'n effeithiol ac yn ddiogel, gan gofio y bydd llawer o swyddogaethau cymorth yn parhau i gael eu cyflawni o Fae Caerdydd a swyddfeydd yr Aelodau.