WAQ79474 (e) Wedi’i gyflwyno ar 25/02/2020

A wnaiff y Comisiwn ddarparu dadansoddiad o'r cyllid a fydd ar gael ar gyfer symud y Senedd i ogledd Cymru ym mis Mehefin 2020, gan gynnwys costau teithio a llety arfaethedig?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Cynulliad | Wedi'i ateb ar 05/03/2020

Ar hyn o bryd, mae'r Comisiwn yn y broses o wneud amcangyfrifon cost cadarn sy'n gysylltiedig â mynd â'r Cynulliad i ogledd Cymru. Fel yr ydych wedi nodi yn eich cwestiwn, bydd y costau hyn yn cynnwys treuliau teithio a llety, ynghyd â llogi lleoliad, cyfleusterau, diogelwch a darlledu. Mae hyn yn waith sydd ar y gweill ar hyn o bryd, wrth i ni drafod y manylion gyda grwpiau pleidiau ac Aelodau.