WAQ79463 (w) Wedi’i gyflwyno ar 20/02/2020

A wnaiff Llywodraeth Cymru gyhoeddi ffigurau lefelau staffio mewn llyfrgelloedd, sydd â chymwysterau cydnabyddedig mewn llyfrgellyddiaeth, gwyddor gwybodaeth neu reoli gwybodaeth, fesul 10,000 o’r boblogaeth breswyl, ar gyfer pob awdurdod leol?

Wedi'i ateb gan Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Twristiaeth | Wedi'i ateb ar 04/03/2020

Caiff perfformiad llyfrgelloedd cyhoeddus, gan gynnwys lefelau staff, ei fonitro’n flynyddol drwy Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru. Mae pob awdurdod yn derbyn adborth manwl ac mae fy swyddogion yn cyfarfod ag awdurdodau unigol os oes materion penodol sy’n peri pryder, gan drafod y materion hyn a chynnig cyngor a chymorth. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorth er mwyn galluogi staff llyfrgelloedd cyhoeddus i ennill cymwysterau proffesiynol a chymryd rhan mewn gweithgareddau datblygiad proffesiynol.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi llyfrgelloedd lleol i ddatblygu arferion gweithio mwy cydweithredol ac effeithlon er mwyn gwella eu cydnerthedd. Un enghraifft o hyn yw gweithredu System Reoli a rennir ar gyfer Llyfrgelloedd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’n ddiweddar yn sgil cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ffigurau ynghylch lefelau staff mewn llyfrgelloedd fesul 10,000 o boblogaeth pob awdurdod lleol, ynghyd â lefelau staff sydd â chymwysterau cydnabyddedig mewn llyfrgellyddiaeth, gwyddor gwybodaeth neu reoli gwybodaeth.