WAQ79404 (w) Wedi’i gyflwyno ar 04/02/2020

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu siarter a phecyn cymorth llwyth gwaith a lles ar gyfer gweithlu'r ysgol?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Addysg | Wedi'i ateb ar 12/02/2020

Sefydlwyd y Gweithgor Rheoli Llwyth Gwaith a Lleihau Biwrocratiaeth er mwyn cyflwyno cynigion i helpu i roi sylw i faterion yn ymwneud â llwyth gwaith mewn ysgolion ar draws Cymru. Mae’r Gweithgor, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r undebau llafur, yr haen ganol a Llywodraeth Cymru, wedi nodi pedair blaenoriaeth gychwynnol, y cyfeiriais atynt mewn datganiad llafar fis Mehefin. Datblygu siarter a phecyn cymorth llwyth gwaith a lles yw un o’r blaenoriaethau hynny, ac mae’r gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd.

Cynhaliwyd gweithdai yn gynnar yn yr hydref, gyda’r rhai a enwebwyd gan aelodau o’r Gweithgor Rheoli Llwyth Gwaith a Lleihau Biwrocratiaeth yn bresennol. Mae siarter ddrafft yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Yn ogystal â hynny, datblygwyd Pecyn Cymorth Llesiant mewn partneriaeth â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, a fydd yn cael ei gyhoeddi wrth ochr y siarter yn y man.