WAQ79385 (w) Wedi’i gyflwyno ar 27/01/2020

A wnaiff y Gweinidog restru'r holl ffilmiau a ariannwyd drwy gronfa ffilm a theledu Llywodraeth Cymru sydd wedi'u cwblhau hyd yma, a chadarnhau ym mha leoliadau (sinemau, theatrau, canolfannau celfyddydol) yng Nghymru y cafodd y ffilmiau hynny eu dangos?

Wedi'i ateb gan Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Twristiaeth | Wedi'i ateb ar 04/02/2020

Mae 14 o’r Ffilmiau a ariannwyd gennym rhwng 2012/13 a 2019/20 wedi’u cwblhau, ond nid yw 5 ohonynt wedi’u rhyddhau eto. Ceir rhestr ohonynt yn Atodiad 1. Rydym yn deall bod y cynyrchiadau wedi’u dangos mewn sawl gwahanol leoliad ac ar blatfformau amrywiol. Nid yw Llywodraeth Cymru yn cadw cofnod o hyn, fodd bynnag, gan ei bod hi’n anodd iawn gwneud hynny yn sgil y ffaith bod cynyrchiadau yn newid platfformau trwy dduliau digidol mor aml ac mewn modd mor ddidrafferth. Mae cytundebau trwyddedu yn newid yn barhaus yn ogystal.  

Mae gwybodaeth ar gael am y platfformau sy’n ffrydio pob cynhyrchiad drwy www.justwatch.com/uk sef y canllaw ar ffrydio ar gyfer ffilmiau a sioeau, ac mae’n hawdd cael copïau i’w cadw o’r rhan fwyaf o gynyrchiadau ar-lein a chan y rhan fwyaf o fanwerthwyr y stryd fawr.

Atodiad 1: Rhestr o’r Ffilmiau a gynhyrchwyd yng Nghymru sydd wedi’u cwblhau

 

Blwyddyn Ariannol y Cynnig

Teitl y Cynhyrchiad                                              (Cronfa Sgrîn Cymru a Chyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau)

Nodyn

1

2013/14

Petroleum Spirit

 

2

2013/14

A Poet In New York

 

3

2013/14

From a Jack to a King

 

4

2014/15

Trampires

Heb ei rhyddhau eto

5

2014/15

Take Down

 

6

2015/16

Their Finest

 

7

2015/16

Don't Knock Twice

 

8

2016/17

Showdogs

 

9

2016/17

Apostle

 

10

2016/17

Journey’s End

 

11

2017/18

Eternal Beauty

Heb ei rhyddhau eto

12

2017/18

Denmark

Heb ei rhyddhau eto

13

2018/19

Dream Horse

Heb ei rhyddhau eto

14

2018/19

Six Minutes To Midnight

Heb ei rhyddhau eto