Ymhellach i WAQ79294, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau a oes gan Lywodraeth Cymru ddiffiniad o'r hyn y mae'n ei ystyried yw 'tŷ fforddiadwy' mewn termau ariannol?
Y diffiniad o 'dai fforddiadwy' at ddibenion cynllunio yw tai lle mae mecanweithiau ar waith, ar gyfer y meddiannwr cyntaf a’r meddianwyr sy’n dilyn, i sicrhau eu bod yn hygyrch i bobl na allant fforddio tai ar y farchnad. Mae’r gallu i fforddio tai ar y farchnad yn amrywio o ardal i ardal.
Mae Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 2: Cynllunio a Thai Fforddiadwy yn rhoi cyngor i awdurdodau lleol ar sut i bennu ‘fforddiadwyedd’, a ddiffinnir fel gallu aelwydydd neu aelwydydd posibl i brynu neu rentu eiddo sy'n bodloni anghenion yr aelwyd, a hynny heb gymhorthdal. Gall fforddiadwyedd fod yn seiliedig ar asesiad o'r gymhareb incwm neu enillion y cartref i bris yr eiddo i'w brynu neu ei rentu ar y farchnad dai agored yn yr ardal leol.
Dylai awdurdodau lleol gyfrifo fforddiadwyedd ar gyfer pob un o'r marchnadoedd tai a all fod yn gweithredu yn eu hardal (ac mewn rhai awdurdodau cyfagos, os yw'n briodol). Gall y wybodaeth hon fod yn rhan o'r dystiolaeth a ddefnyddir i gyfrifo'r swm a'r math o dai fforddiadwy sydd eu hangen.