WAQ79313 (w) Wedi’i gyflwyno ar 13/01/2020

A oes unrhyw anhawster, cyfreithiol neu fel arall, sy'n atal y Gweinidog rhag cyflwyno cwotau blynyddol fyddai'n sicrhau bod cyfran o'r rheiny sy'n hyfforddi i fod yn rhan o'r gweithlu meddygol yn dilyn eu hyfforddiant naill ai'n gyfan gwbl neu'n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 17/01/2020

Cyfeiriaf at fy ateb blaenorol i WAQ79301. Mae gosod cwotâu neu ddangos unrhyw fath o ffafriaeth yn anghyfreithlon o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Nid yw'r iaith Gymraeg wedi’i chynnwys ar y rhestr o nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ond gallai dangos ffafriaeth tuag ati gael ei ystyried yn enghraifft o wahaniaethu’n anuniongyrchol ar sail hil.

Mae sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru yn gyrff ymreolaethol, annibynnol ac mae Gweinidogion Cymru wedi’u gwahardd drwy statud rhag ymyrryd mewn materion yn ymwneud â derbyniadau. Fodd bynnag, rydym wedi bod yn gweithio gydag Ysgolion Meddygaeth Prifysgolion Caerdydd ac Abertawe i nodi sut y gallwn annog rhagor o fyfyrwyr o Gymru i ystyried gyrfa ym maes meddygaeth, cynyddu cyfleoedd ar gyfer y rhai sy'n dymuno astudio yng Nghymru a nodi unrhyw rwystrau a allai eu hatal rhan gwneud hynny a'u goresgyn. Yn ogystal â hynny, mae Prifysgolion Caerdydd a Bangor yn cydweithio â’i gilydd i gyflwyno addysg feddygol yn uniongyrchol ym Mhrifysgol Bangor.