WAQ79301 (w) Wedi’i gyflwyno ar 08/01/2020

A oes unrhyw anhawster, cyfreithiol neu fel arall, sy’n atal y Gweinidog rhag gosod cwotâu blynyddol sy'n amlinellu isafswm canran yn y gweithlu meddygol sydd yn medru dilyn hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg a/neu yn ddwyieithog?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 17/01/2020

Rwy’n gwbl glir y dylai unigolion sy'n cael gofal drwy wasanaethau iechyd a gofal allu cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Mae hyn yn fwy pwysig pan fo unigolion a'u hanwyliaid yn teimlo fwyaf agored i niwed.

Dyna pam y gwnaethom ddatblygu’r Fframwaith Strategol "Mwy na Geiriau" yn 2013, er mwyn cryfhau gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal â fframwaith olynol yn 2016 a chynllun gweithredu ar gyfer 2019-2020.   

Mae'r cysyniad bod gallu defnyddio eich iaith eich hun yn rhan annatod o ofal yn ganolog i’r fframwaith hwn. Mae gofal ac iaith yn mynd law yn llaw ac mae gan sefydliadau gyfrifoldeb i sefydlu diwylliant cefnogol er mwyn sicrhau bod gwasanaethau ar gael i siaradwyr Cymraeg. Mae hyn yn cynnwys meithrin sgiliau iaith Gymraeg staff ac ystyried a oes angen sgiliau Cymraeg wrth hysbysebu swyddi.  

Mae gennym nifer o gynlluniau a mesurau ar waith i bwysleisio pwysigrwydd sgiliau iaith Gymraeg a chodi ymwybyddiaeth ohonynt er mwyn annog a chefnogi myfyrwyr o Gymru a myfyrwyr Cymraeg eu hiaith sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa ym maes meddygaeth. Bydd y rhain hefyd yn paratoi myfyrwyr Cymru'n well ar gyfer sicrhau lle ar raglenni meddygaeth.

Mae gosod cwotâu neu ddangos unrhyw fath o ffafriaeth yn anghyfreithlon o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Nid yw'r iaith Gymraeg wedi’i chynnwys ar y rhestr o nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ond gallai dangos ffafriaeth tuag ati gael ei ystyried yn enghraifft o wahaniaethu’n anuniongyrchol ar sail hil.

Mae sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru yn gyrff ymreolaethol, annibynnol ac mae Gweinidogion Cymru wedi’u gwahardd drwy statud rhag ymyrryd mewn materion yn ymwneud â derbyniadau. Fodd bynnag, rydym wedi bod yn gweithio gydag Ysgolion Meddygaeth Prifysgolion Caerdydd ac Abertawe i nodi sut y gallwn annog rhagor o fyfyrwyr o Gymru i ystyried gyrfa ym maes meddygaeth, cynyddu cyfleoedd ar gyfer y rhai sy'n dymuno astudio yng Nghymru a nodi unrhyw rwystrau a allai eu hatal rhan gwneud hynny a'u goresgyn. Yn ogystal â hynny, mae Prifysgolion Caerdydd a Bangor yn cydweithio â’i gilydd i gyflwyno addysg feddygol yn uniongyrchol ym Mhrifysgol Bangor.

Mae ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, 'Cymru Iachach', yn cynnwys camau i ddatblygu strategaeth newydd ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Cafodd y sefydliadau Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru eu comisiynu gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu'r strategaeth a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ddiwedd y flwyddyn y llynedd. Rydym wrthi'n ystyried camau nesaf y strategaeth ar hyn o bryd. Mae'r iaith Gymraeg fel llinyn aur drwy'r strategaeth a bydd yn elfen allweddol wrth weithredu'r strategaeth yn y dyfodol.

Byddwn hefyd yn parhau i chwilio am ffyrdd o ehangu'r cyfleoedd o dan y trefniadau deddfwriaethol presennol.