A wnaiff y Gweinidog roi’r amserlen ddiweddaraf ar gyfer cyflwyno rheoliadau safonau’r Gymraeg gerbron y Cynulliad mewn perthynas a’r holl sectorau sydd wedi eu cynnwys ym Mesur y Gymraeg 2011 nad ydynt eto yn ddarostyngedig i safonau'r Gymraeg?
Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol | Wedi'i ateb ar 14/01/2020
Ar hyn o bryd rydym yn datblygu safonau a fydd yn berthnasol yn benodol i gwmnïau dŵr a rheoleiddwyr gofal iechyd proffesiynol. Rydym yn bwriadu cyflwyno Rheoliadau yn ystod y Cynulliad hwn. Bydd datganiad pellach yn cael ei gyhoeddi yn y man.