WAQ79296 (w) Wedi’i gyflwyno ar 08/01/2020

A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y trethi newydd posib sydd wedi eu hystyried neu sydd dan ystyriaeth gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd | Wedi'i ateb ar 16/01/2020

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar y pedwar syniad am dreth newydd sydd wedi cyrraedd rhestr fer i'w hystyried ymhellach yn dilyn dadl gyhoeddus ar syniadau ar gyfer trethi newydd.

Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n ceisio datganoli pwerau dros Dreth ar Dir Gwag drwy fecanwaith Deddf Cymru. Nid yw'r broses hon wedi cael ei chyflawni o'r blaen felly mae'n bwysig ein bod yn cymryd ein hamser i’w gwneud yn iawn er mwyn gosod cynsail briodol ar gyfer lle y caiff penderfyniadau eu gwneud. Fodd bynnag, mae'r broses yn cymryd llawer mwy o amser na'r disgwyl, a chafwyd rhagor o oedi yn ddiweddar oherwydd Etholiad Cyffredinol y DU. Y cam nesaf fydd trefnu cyfarfod Cyd-bwyllgor y Trysorlysoedd rhwng Gweinidogion Cymru a’r DU. Rwy’n awyddus i gytuno ar y Gorchymyn drafft a'r amserlen ar gyfer gweddill y broses yn ystod y cyfarfod hwnnw. Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion weithio gyda chydweithwyr yn Nhrysorlys Ei Mawrhydi i sicrhau bod y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal cyn gynted â phosibl. Rwyf wedi ymrwymo i roi gwybodaeth reolaidd i’r Cynulliad ynghylch cynnydd y gwaith a byddaf mewn sefyllfa i wneud hynny ar ôl y cyfarfod hwnnw.

Wrth i'r broses o sicrhau pwerau barhau, mae gwaith arall ar y gweill ar draws Llywodraeth Cymru a chyda rhanddeiliaid allweddol i ddatblygu sylfaen dystiolaeth gadarn i lywio’r broses o ddatblygu polisi manwl pellach ar ôl datganoli pwerau. Bydd ymchwil bellach i safleoedd segur yng Nghymru yn cael ei chyhoeddi'n fuan. Bydd angen mwy na threth newydd i ddatrys yr heriau a gyflwynir gan safleoedd segur. Rydym wedi bod yn gwbl glir am hyn o’r dechrau. Bydd canfyddiadau'r ymchwil hon yn cael eu defnyddio i lywio’r broses o ddatblygu cynigion ar gyfer Treth ar Dir Gwag yn ogystal ag ymyriadau eraill sydd ar gael inni. Bydd y dull hwn yn sicrhau bod gennym becyn addas o fesurau i fynd i'r afael â'r amrywiaeth lawn o faterion.

O dan nawdd y Grŵp Rhyngweinidogol Talu am Ofal Cymdeithasol, mae gwaith ar y gweill i ymchwilio i fodelau ariannu arloesol ar gyfer talu am ofal cymdeithasol.  Mae ein gwaith o ystyried dewisiadau ariannu i gefnogi costau gofal cymdeithasol yn y dyfodol yn cael ei lywio, yn rhannol, gan adroddiad ‘Talu am Ofal Cymdeithasol’ yr Athro Gerry Holtham, a gyhoeddwyd ar 28 Mehefin 2018, a’i gynigion i gyflwyno ardoll gofal cymdeithasol a chronfa gysylltiedig.

Rwy’n siŵr y byddwch yn gwerthfawrogi, yn dilyn y gwaith y mae eich plaid wedi ei gyflawni fel rhan o Gomisiwn Gofal Plaid Cymru, bod y gwaith sy'n cael ei wneud gan y Grŵp Rhyngweinidogol yn hynod o heriol, oherwydd natur y ddarpariaeth gofal cymdeithasol. Mae rhyngddibyniaethau a goblygiadau gweithredoedd a bwriadau Llywodraeth y DU yn achosi cymhlethdodau pellach hefyd. 

Rydym yn parhau i ymchwilio i’r posibilrwydd o gyflwyno treth sy'n benodol i Gymru ar gwpanau plastig untro neu godi tâl amdanynt. Mae gwaith ar y gweill i fapio effaith cyflwyno treth neu dâl yn y maes hwn, ac i sicrhau bod unrhyw fesurau arfaethedig yn cael eu cydlynu â gweithgareddau ehangach y Llywodraeth – megis gwaharddiadau sydd i ddod ar eitemau plastig untro penodol. Rydym hefyd yn cydweithio â Llywodraeth y DU ar ei chynigion i gyflwyno treth ar becynnau plastig, gan weithio â rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru i sicrhau bod safbwyntiau Cymru yn cael eu cynnwys yn y cynllun arfaethedig ac wrth weithredu'r dreth. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ystyried ffyrdd y gellid rhoi pwerau caniataol i awdurdodau lleol ddatblygu a gweithredu treth leol ar dwristiaeth.  Byddwn yn parhau i weithio â rhanddeiliaid, partneriaid ac arbenigwyr allweddol, gan gynnwys y sector twristiaeth a llywodraeth leol, i ymchwilio i rinweddau treth leol ar dwristiaeth.  Byddwn hefyd yn ceisio safbwyntiau yn arbennig ar effaith bosibl treth o'r fath a’i diben.