WAQ79295 (w) Wedi’i gyflwyno ar 08/01/2020

Pa arweiniad neu gyfarwyddyd sydd wedi ei roi i awdurdodau cynllunio o ran adolygu cynlluniau datblygu lleol yn sgil y Senedd yn datgan argyfwng hinsawdd?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol | Wedi'i ateb ar 16/01/2020

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru o fewn Polisi Cynllunio Cymru (PCC).  Cafodd yr argraffiad presennol o’r PCC ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2018, ychydig fisoedd cyn datganiad y Cynulliad ar yr argyfwng hinsawdd.  Mae yn cynnwys y polisïau cadarn diweddaraf i fynd i’r afael ag achosion ac effeithiau y newid yn yr hinsawdd, ac yn pennu fframwaith clir ar gyfer diwygio y Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl)

Mae fframwaith polisi cynhwysfawr ac uchelgeisiol PCC yn berthnasol iawn i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.  Mae’n hyrwyddo patrymau setliadau y dyfodol, ble y mae maint a lleoliad datblygiad yn creu cydbwysedd rhwng cartrefi newydd a swyddi i leihau’r defnydd o drafnidiaeth breifat.  Mae PCC yn cyfyngu’n llym ar gloddio am danwydd fosil tra’n hyrwyddo datblygiad ynni adnewyddadwy.  Mae’n sefydlu hierarchiaeth trafnidiaeth sy’n cyfyngu ar y defnydd o gerbydau modur ac yn hyrwyddo cerdded a beicio.  Mae canllawiau polisi cadarn wedi’u darparu ar lifogydd sy’n sicrhau nad yw datblygiadau bregus yn cael eu lleoli ar orlifdir, ac ar yr un pryd yn sicrhau bod lliniaru ar achosion llifogydd.  Mae PCC yn egluro yr angen i wella bioamrywiaeth, cadernid yr ecosystem a’r seilwaith gwyrdd.  Mae egwyddorion yr economi gylchol a rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy wedi’u cynnwys yn y ddogfen.  

Cyfrifoldeb pob awdurdod cynllunio lleol yw penderfynu ar gwmpas a chynnwys eu PCC, yn unol â’r polisi cenedlaethol.  Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig sylwadau ar y CDLlau, wedi’u llywio gan ein polisi cynllunio cenedlaethol.  Caiff gwrthwynebiadau ffurfiol eu gwneud os nad yw’r polisi cenedlaethol wedi ei ystyried yn ddigonol.