A wnaiff y Gweinidog gadarnhau gwariant blynyddol Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ar gartrefu unigolion mewn llety dros dro yng Nghymru?
Nid yw Llywodraeth Cymru yn casglu gwybodaeth am y swm o arian sy’n cael ei wario gan awdurdodau lleol i ddarparu llety dros dro yng Nghymru.
Mae llety dros dro yn cael ei ddarparu fel rheol dan ddarpariaethau statudol, felly bydd y costau yn cael eu talu o gyllidebau craidd yr awdurdodau (RSG) yn hytrach na grant Llywodraeth Cymru.
Darparwyd £6m yn ychwanegol drwy’r RSG i gefnogi darpariaeth awdurdodau lleol o ddyletswyddau digartrefedd statudol o 2018-19. Ar ben hynny, mae Llywodraeth Cymru yn darparu swm bach o gyllid drwy’r Grant Atal Digartrefedd i nifer o sefydliadau trydydd sector er mwyn helpu i gynnal llochesi nos. Yn 2019/20, roedd y cyllid hwn yn £427k, ac yn cwmpasu prosiectau yng Nghaerdydd, Aberystwyth a Wrecsam.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu cyllid yn uniongyrchol i awdurdodau lleol drwy’r Grant Cymorth Tai. Mae’r cyllid hwnnw yn cael ei ddefnyddio i gefnogi gweithgareddau sy’n atal digartrefedd ac yn helpu aelwydydd ac unigolion i gynnal eu tenantiaeth.