WAQ79260 (w) Wedi’i gyflwyno ar 03/01/2020

A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa effaith mae cyhoeddi’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft yn ei chael ar geisiadau cyfoes am ddatblygiadau cynhyrchu ynni solar, lle mae’r safleoedd dan sylw yn gorwedd tu allan i’r ardaloedd a gaiff eu hadnabod yn y fframwaith drafft fel ardaloedd ar gyfer datblygu ynni solar?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol | Wedi'i ateb ar 10/01/2020

Nid yw’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft, a gyhoeddwyd yn destun ymgynghoriad y llynedd, yn effeithio ar gymwysiadau ynni solar presennol. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi mesur effaith polisïau drafft y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol oherwydd ei bod yn bosibl y byddant yn newid yn ystod y broses ymgynghori. Bydd Fframwaith Monitro yn cyd-fynd â’r cynllun terfynol, a gyhoeddir ym mis Medi 2020, ar gyfer gwerthuso effeithiolrwydd y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol.