WAQ79167 (w) Wedi’i gyflwyno ar 27/11/2019

Pa fecanwaith sydd i sicrhau bod gwasanaethau iechyd sydd yn cael eu lletya gan un bwrdd iechyd ar sail Cymru gyfan yn ateb anghenion cleifion mewn byrddau iechyd lleol ledled Cymru?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 06/12/2019

O ran gwasanaethau arbenigol iawn, bydd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn datblygu manyleb gwasanaeth yn seiliedig ar ganllawiau proffesiynol, barn arbenigwyr ac ymarfer clinigol presennol mewn systemau iechyd eraill. Yna bydd manyleb y gwasanaeth yn pennu beth y gellir ei gomisiynu yn rhanbarthol neu'n genedlaethol. Mae rhai gwasanaethau arbenigol iawn yn seiliedig ar ganllawiau proffesiynol o ran isafswm poblogaeth neu nifer achosion y flwyddyn ond bydd hyn yn dibynnu ar natur y gwasanaeth penodol.

Ar gyfer gwasanaethau arbenigol nad ydynt wedi'u comisiynu gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, disgwylir i fyrddau iechyd gomisiynu a darparu gwasanaethau yn unol â'r safonau clinigol a bennir gan sefydliadau cydnabyddedig fel y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, y Colegau Brenhinol neu sefydliadau a chymdeithasau arbenigol. Mae'n arferol i fyrddau iechyd gydweithio yn y modd hwn os oes manteision i weithio ar raddfa fwy, neu os oes cyfyngiadau arferol mewn arbenigedd a seilwaith. Bydd y patrwm poblogaeth gorau posibl ar gyfer y gwasanaethau hyn yn cael ei bennu drwy gyfuniad o ganllawiau proffesiynol, consensws clinigol a rhagdybiaethau cynllunio.

Nid yw Llywodraeth Cymru yn cadw rhestr o wasanaethau iechyd sy'n cael eu darparu gan fyrddau iechyd lleol unigol ond ar sail Cymru gyfan. Mae llawer o'r gwasanaethau hyn yn debygol o fod yn wasanaethau arbenigol iawn ac wedi'u rhestru ar wefan Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn:

http://www.whssc.wales.nhs.uk/policies-and-procedures-1

Y comisiynwyr sy'n gyfrifol am fonitro ansawdd gwasanaeth a gynigir gan ddarparwr arall. Mewn nifer o ardaloedd mae lefel trosolwg uwch drwy archwiliadau clinigol cenedlaethol neu adolygiadau gan gymheiriaid. Mae'r rhain yn ddulliau pwerus o edrych ar ddarpariaeth gwasanaethau ar draws ffiniau byrddau iechyd.