A wnaiff y Gweinidog restru unrhyw achosion yn ystod y pum mlynedd diwethaf o ddarpariaeth iechyd a symudwyd o siroedd Môn a Gwynedd i siroedd dwyreiniol ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaldar?
Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyfrifoldeb strategol am sicrhau gwasanaethau diogel a chynaliadwy i’w boblogaeth ar draws y Gogledd. Gellid gwneud newidiadau i’r ddarpariaeth iechyd am nifer o resymau, a hynny ar lefel gwasanaeth a lefel cleifion. Byddai hynny’n cynnwys mynediad amserol at ofal, a sicrhau bod y gofal yn cael ei ddarparu’n unol â’r safonau clinigol. Nid yw Llywodraeth Cymru yn casglu manylion pob achos – byddai hyn yn digwydd o fewn ardal bwrdd iechyd unigol. Yr unig fanylion fyddai ganddi fyddai am newidiadau sylweddol i’r ffordd y bwriedir darparu gwasanaethau mewn ardal bwrdd iechyd.