Pryd oedd y tro diwethaf i adolygiad gael ei gynnal o’r gwasanaeth llygaid prosthetig a sut oedd modd i ddefnyddwyr y gwasanaeth gymryd rhan mewn unrhyw adolygiad?
Mae’r Gwasanaeth Llygaid Prosthetig yn cael ei gomisiynu gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a’i reoli gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro drwy’r Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar. Caiff y gwasanaeth ei gynnal gan dri phrosthetydd llygaid arbenigol sy’n darparu clinigau lloeren ym mhob cwr o Gymru. Ar hyn o bryd, mae’r Gogledd yn cael ei wasanaethau gan un clinigydd, sy’n teithio rhwng clinigau.
Nid yw Ysbyty Gwynedd wedi cynnal clinigau Llygaid Prosthetig ers mis Medi 2013. Bu’n rhaid cymryd y cam hwn i newid y gwasanaeth fel mater o argyfwng. Dod o hyd i leoliad addas ar gyfer darparu’r gwasanaeth (ee mae angen ystafell gyda digon o olau er mwyn dod o hyd i lygaid prosthetig sy’n gweddu o ran lliw) oedd y sbardun. Mae’r Prosthetyddion Llygaid yn treulio cyfran fawr o’u hwythnos gwaith yn teithio rhwng amryw o safleoedd. Penderfynodd y Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar leihau nifer y safleoedd clinig yr ymwelwyd â hwy fel rhan o adolygiad i wella llesiant staff a chadernid y gwasanaeth. Gan fod clinigwyr yn arbed amser drwy beidio â theithio dros ardaloedd daearyddol mawr, mae’r gwasanaeth wedi gwella. Mae mwy o apwyntiadau clinig yn cael eu cynnig ac mae’r amseroedd aros wedi lleihau.
Mae’r bwrdd iechyd yn cydnabod y ddyletswydd sydd arnynt i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg. Mae’r bwrdd iechyd yn cefnogi cleifion a defnyddwyr gwasanaethau y mae’n well ganddyn nhw ddefnyddio’r Gymraeg wrth drafod eu gofal iechyd â staff. Bydd y Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar yn comisiynu cyfieithwyr ar gyfer unrhyw un a fydd eu hangen.
Mae’r Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar yn y broses ar hyn o bryd o adolygu’r ddarpariaeth gwasanaethau. Fel rhan o’r adolygiad hwn, bydd adborth gan gleifion ar gyfer gwella gwasanaethau yn cael ei groesawu. Mae gan y Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar ei fesurau mewnol ei hun ar gyfer atgyfeirio ar gyfer triniaethau ond mae’n bwriadu dechrau adrodd ar y rhain i Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ynghyd â mesurau gwasanaeth eraill na chytunwyd arnynt hyd yma. Yn ogystal â Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, mae perfformiad y Gwasanaeth Llygaid Prosthetig yn cael ei fonitro hefyd gan Fwrdd Clinigol Gwasanaethau Arbenigol y bwrdd iechyd.