WAQ79147 (w) Wedi’i gyflwyno ar 25/11/2019

Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ddulliau i gynyddu ymwybyddiaeth dinasyddion tramor cymwys o'u hawl i bleidleisio mewn etholiadau Cynulliad a llywodraeth leol a sicrhau eu bod yn gallu gweithredu'r hawl hwnnw?

Wedi'i ateb gan Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit | Wedi'i ateb ar 05/12/2019

Mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio’n agos â’r gymuned etholiadol, awdurdodau lleol a phartneriaid allweddol eraill i sicrhau eu bod yn barod ar gyfer y newidiadau i’r etholfraint ar gyfer canfasiad 2020. Yn ogystal â’r newidiadau a ddaw yn sgil Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) mae diwygio etholiadol sylweddol ar y gweill. Mae’r gyfres hon o ddiwygiadau yn cynnwys newidiadau i broses y canfasiad, a fydd yn caniatáu i broses wedi’i symleiddio gael ei sefydlu, a honno’n seiliedig ar ddefnyddio data lleol (a ddelir gan yr awdurdod lleol). Bydd hynny’n helpu gweinyddwyr i adnabod pobl sydd newydd ddod yn gymwys i bleidleisio, a sicrhau eu bod yn gwneud y cais priodol i gofrestru. Mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio’n agos â Llywodraeth y DU hefyd i sicrhau bod y Gwasanaeth Cofrestru Digidol yn cael ei ddiweddaru i ganiatáu i ddinasyddion tramor cymwys gofrestru ar lein, ac mae gwaith pellach ar y gweill gyda chyflenwyr meddalwedd rheoli etholiadol i sicrhau bod y systemau’n cael eu diweddaru i dderbyn yr etholwyr newydd.

Rydym hefyd yn gweithio ar amryw o weithgareddau i gefnogi’r agenda eang ar gyfer adnewyddu democrataidd. Rydym wedi comisiynu ymchwil yn ddiweddar er mwyn dod i ddeall beth yw’r ffordd orau o roi gwybod i grwpiau sydd newydd gael eu hetholfreinio (gan gynnwys dinasyddion tramor) am eu hawliau; ac i gasglu eu barn ynghylch cyfranogiad ac ymgysylltu democrataidd. Byddwn yn defnyddio’r dystiolaeth a gynhyrchir gan y gwaith ymchwil hwn i lywio’r gwaith addysgol ac ymgysylltu a wneir yn y dyfodol gyda’r holl etholwyr newydd a fydd wedi’u hetholfreinio.