WAQ79139 (w) Wedi’i gyflwyno ar 25/11/2019

A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae cymdeithasau tai yn atebol i bobl leol?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol | Wedi'i ateb ar 04/12/2019

Mae cymdeithasau tai yn sefydliadau ymreolaethol annibynnol gyda byrddau annibynnol. Felly, ni chânt eu llywodraethu gan Lywodraeth Cymru. Er hynny, mae cymdeithasau tai yn cael eu rheoleiddio gan Weinidogion Cymru drwy fframwaith rheoleiddio. Mae pob cymdeithas yn destun dyfarniad rheoleiddiol yn flynyddol, o leiaf.

Mae cymdeithasau tai hefyd yn atebol i bobl leol, yn enwedig y bobl y maent yn darparu gwasanaethau iddynt. Yn unol â hynny, rydym yn disgwyl i’r broses o wneud penderfyniadau fod yn dryloyw ac yn agored i graffu. Mae cynnwys tenantiaid yn ganolog i wasanaethau effeithiol ac adlewyrchir hyn yn y fframwaith rheoleiddio mewn nifer o ffyrdd.

Ar hyn o bryd, mae'r fframwaith yn cynnwys safon perfformiad (SP 2) sydd wedi'i hanelu'n benodol at gynnwys tenantiaid. Er mwyn bodloni'r safon hon, rhaid i gymdeithasau tai sicrhau cyfranogiad effeithiol a phriodol gan denantiaid a gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n gwella o hyd.

Mae'r rheoleiddiwr hefyd yn ystyried a all cymdeithasau roi sicrwydd, a hynny gyda thystiolaeth, fod tenantiaid yn cael eu cynnwys yn effeithiol yn y broses o wneud penderfyniadau strategol a llywio gwasanaethau, a hynny mewn ffyrdd sy'n briodol i denantiaid a'u cymdeithasau, a’u bod yn gallu dangos eu bod yn bodloni'r gofynion statudol iechyd a diogelwch perthnasol.

Fel cyrff annibynnol, mae'r ffyrdd y mae cymdeithasau tai yn gweithio gyda thenantiaid i sicrhau eu bod yn ymwneud â phrosesau gwneud penderfyniadau wedi'u teilwra i'w hamgylchiadau lleol. Ar hyn o bryd, mae'r rhain yn amrywio o gynrychiolaeth tenantiaid ar fyrddau, cyrff democrataidd cymunedol cydfuddiannol, fforymau cynrychioladol a phaneli craffu ar draws 'ôl troed' cymdeithas ac yn aml yn gysylltiedig â byrddau. Mae tenantiaid hefyd yn cael eu clywed drwy sefydliadau cynrychioliadol fel Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid Cymru (TPAS Cymru), er enghraifft.

Mae Bwrdd Rheoleiddiol Cymru, a sefydlwyd i oruchwylio perfformiad y rheoleiddiwr ac i gynghori Gweinidogion Cymru ar dueddiadau o ran tai cymdeithasol, yn cymryd diddordeb arbennig mewn cynnwys tenantiaid ac mewn atebolrwydd lleol. Gydag amrywiaeth eang o wahanol drefniadau ar lefel leol, fis Gorffennaf diwethaf cyhoeddodd y Bwrdd Rheoleiddiol ‘Y Pethau Iawn: Clywed Llais Tenantiaid’. O ganlyniad i gryn dipyn o ymgysylltu â rhanddeiliaid, mae'r ddogfen yn sefydlu cwestiynau a heriau sylfaenol i gymdeithasau eu hystyried wrth adolygu ymgysylltiad â thenantiaid. Gofynnwyd i fyrddau a swyddogion gweithredol cymdeithasau tai ystyried sut y gallant ymgorffori negeseuon ‘Y Pethau Iawn’ a rhoi effaith ymarferol iddynt.

Mae'r rheoleiddiwr yn herio cymdeithasau tai yn gyson i wella ac, yng ngoleuni'r adroddiad ‘Y Pethau Iawn’, bydd yn gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid y flwyddyn nesaf fel rhan o adolygiad, sydd eisoes wedi’i drefnu, o'r fframwaith perfformiad. Bydd diddordeb arbennig gan yr adolygiad ym mha mor gyfredol ac addas yw SP2 a bydd yn ystyried hefyd a yw'n briodol cael system ddyfarnu ar wahân ar gyfer cynnwys tenantiaid / ansawdd gwasanaethau.

Gan weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys TPAS Cymru, rydym yn parhau i atgyfnerthu prosesau craffu a herio effeithiol ar bolisïau a phenderfyniadau cymdeithasau tai, yn enwedig craffu a herio gan denantiaid. Cafodd y rhyngwyneb defnyddiwr ei brofi gan banel o denantiaid ar gyfer set ddata glir y gellir ei chymharu, ac roedd yn foddhaol. Yn unol â hynny, cyhoeddwyd y set ddata ym mis Hydref 2018 (gweler https://llyw.cymru/cymharu-eich-cymdeithas-dai?_ga=2.168977377.1749295482.1575305189-634711521.1569942447 ). Mae'r system yn galluogi pobl i gymharu data ar naw dangosydd o foddhad tenantiaid, saith dangosydd o gost ac effeithlonrwydd landlordiaid, a nifer y cartrefi sy'n bodloni safon ansawdd tai Cymru. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth gyd-destunol ar gyfer pob cymdeithas dai, megis cyfanswm y cartrefi, nifer y staff, trosiant ac arian dros ben / diffyg arian. Mae'r tudalennau wedi eu gweld dros 2,500 o weithiau ers eu cyhoeddi.

Wrth gwrs, mae anghenion a barn darpar denantiaid yn bwysig hefyd, ac anogir cymdeithasau tai i ddeall anghenion darpar denantiaid a defnyddwyr gwasanaethau yn eu gweithgareddau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella cymdeithasau tai yn barhaus, er mwyn sicrhau bod pobl leol yn gallu cael gafael ar dai fforddiadwy o safon. Yn hynny o beth, mae'n hanfodol bod lleisiau lleol yn cael eu clywed wrth ddatblygu a chyflwyno darpariaeth leol.