WAQ79110 (w) Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2019

Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud er mwyn darganfod os oes rhwystr cyfreithiol yn atal rhoi enw uniaith Gymraeg ar y Cynulliad?

Wedi'i ateb gan Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit | Wedi'i ateb ar 27/11/2019

Roedd penderfyniad Llywodraeth Cymru i gefnogi'r gwelliannu llwyddiannus i Fil Senedd ac Etholiadau (Cymru) mewn perthynas ag enw'r Cynulliad yn seiliedig ar nifer o resymau. Yn benodol, mae egwyddor hygyrchedd y gyfraith yn cefnogi mabwysiadu enw yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae'r Llywodraeth hefyd o'r farn y dylai fod gennym, fel gwlad ddwyieithog, enw dwyieithog am y sefydliad yr ydym yn gweithredu o'i fewn.

Er hynny, er y byddai'r enw statudol ffurfiol yn ddwyieithog, mae'n bwysig nodi hefyd y byddai'n well gan Lywodraeth Cymru ddefnyddio'r ffurf gryno ‘Senedd’ mewn rhai deddfiadau ac at ddibenion bod dydd, ac fe fydd yn bolisi gan Lywodraeth Cymru ddefnyddio'r term hwn yn gyffredinol lle bynnag y bo modd.