WAQ78953 (e) Wedi’i gyflwyno ar 15/10/2019

A wnaiff y Comisiwn egluro pwy wnaeth ariannu stondin Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2019, a rhoi dadansoddiad o unrhyw gostau yn unol â hynny?

Wedi'i ateb gan Cwnsler Cyffredinol | Wedi'i ateb ar 24/10/2019

Fel rhan o raglen ddigwyddiadau’r haf yn ein strategaeth ymgysylltu â'r cyhoedd, mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru bresenoldeb yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Yn 2019, roedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bresennol yn yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yn Llanrwst yng ngogledd Cymru. Mae'r gost wedi'i dyrannu o fewn cyllideb yr adran gyfathrebu. Cyfanswm y gwariant cyffredinol ar gyfer yr Eisteddfod oedd £42,265.00 (dadansoddiad isod).

Fel rhan o'n presenoldeb yn yr Eisteddfod Genedlaethol, rydym yn noddi Pebyll y Cymdeithasau, sydd wedi’u cysylltu’n ffisegol â’n stondin. Mae'r pebyll hyn yn cynnal amrywiaeth o sesiynau, sgyrsiau a digwyddiadau drwy gydol yr wythnos, ac maent yn denu nifer sylweddol o ymwelwyr. Mae'r cytundeb nawdd yn caniatáu inni gynnal cyfres o ddigwyddiadau ein hunain yn ystod yr wythnos, ac mae hefyd yn sicrhau bod ein logo yn cael ei arddangos ar frandio perthnasol ar draws maes yr Eisteddfod.

Eisteddfod 2019

 

Wifi

£252.00

Brandio a dodrefnu mewnol ac allanol y Pafiliwn 

£18,750.50

Gwasanaethau cludo

£1,218.00

Costau’r Eisteddfod, gan gynnwys: Rhent Tir, Adeilad AluHall, Carped, Trydan, Sgaffaldiau, Diogelwch, Glanhau

£12,692.36

Noddi Pebyll y Cymdeithasau

£6,000.00

Cynhyrchion glanhau

£14.40

Lluniaeth ar gyfer aelodau'r cyhoedd a ymwelodd â ni

£121.93

   

Teithio a chynhaliaeth

 

Bwyd a thrafnidiaeth

£1,236.33

Costau llety 

£1,506.30

   

Goramser

 

Staff ddydd Sadwrn

£473.18

   

CYFANSWM

£42,265.00