A wnaiff Comisiwn y Cynulliad gadarnhau faint o dâl a roddwyd i'r newyddiadurwr Carole Cadwalladr i ddod i'r ŵyl GWLAD yn y Senedd yn ddiweddar?
Wedi'i ateb gan Comisiwn y Cynulliad | Wedi'i ateb ar 26/11/2019
Gweithiodd Comisiwn y Cynulliad mewn partneriaeth â darparwyr a sefydliadau allanol i ddarparu amrywiaeth o weithgareddau yn ystod Gŵyl GWLAD. Rhagwelwyd mai’r costau yn gysylltiedig â ffioedd talent, partneriaethau digwyddiadau, gigs cerddoriaeth a chomedi, teithio a llety ar gyfer digwyddiadau GWLAD Caerdydd fyddai £29,000. Y gwariant hyd yma yw £27,086.
Am resymau o sensitifrwydd masnachol, nid ydym yn rhyddhau manylion taliadau i unigolion na sefydliadau partner.