Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i awgrym UNICEF / NICE y dylid cael un gweithiwr iechyd llawn amser ar gyfer pob 3,000 o enedigaethau mewn gwasanaethau mamolaeth?
Rhaid i bob bwrdd iechyd ddefnyddio offeryn y gweithlu Birthrate Plus er mwyn pennu lefel y staff bydwreigiaeth sy’n darparu gofal i’w poblogaeth famol. Mae’r holl fyrddau iechyd wedi cadarnhau eu bod yn defnyddio’r offeryn ac yn ariannu’r lefelau staffio a argymhellir ar gyfer eu gwasanaeth. Fe wnaeth Adroddiad Blynyddol Coleg Brenhinol y Bydwragedd ar Gyflwr Gwasanaethau Bydwreigiaeth yn 2018 gydnabod bod nifer y bydwragedd sy’n gweithio yng Nghymru wedi codi yn gyson dros y blynyddoedd diwethaf. Ers 2009, er gwaethaf y gostyngiad a welwyd ar ddechrau’r degawd hwn, gwelwyd cynnydd yn nifer y bydwragedd sy’n gweithio o fewn y GIG yng Nghymru sy’n cyfateb i 129 o fydwragedd amser llawn (cynnydd o 10.6 y cant).
Rhaid i fyrddau iechyd hefyd gydymffurfio â chanllawiau Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr ar y gweithlu obstetreg meddygol. Cyfeirir at y gofynion hyn yn y Weledigaeth newydd ar gyfer Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru 2019.
Roedd nifer y genedigaethau yng Nghymru yn 2017 yn 32,236 ac roedd 1,347 o fydwragedd cyfwerth ag amser llawn a 340 o staff obstetreg a gynaecoleg meddygol. Mae hyn yn rhoi cymhareb o 157.0 o weithwyr iechyd amser llawn am bob 3,000 o enedigaethau. (Ffynhonnell: Y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol a chofnod staff electronig y GIG)
Nifer y staff cyfwerth ag amser llawn |
2017 |
Bydwragedd |
1346.8 |
Obstetreg a Gynaecoleg |
340.1 |
Ffigur cyfun |
1686.9 |
Nifer y |
2017 |
Genedigaethau |
32,236 |
|
|
Y gymhareb staff am bob 3,000 o enedigaethau |
157.0 |