Faint o swyddi yn y GIG sydd â ffocws penodol ar fwydo ar y fron yng Nghymru ar hyn o bryd?
Mae bwydo ar y fron yn gymhwysedd greiddiol ar gyfer pob bydwraig ac ymwelydd iechyd hyfforddedig, sy'n eu galluogi i ddarparu gofal a chefnogaeth holistaidd i'r fam, ac i'w theulu. Ar 30 Medi 2018, roedd 1362 (cyfwerth ag amser llawn) o fydwragedd cofrestredig a 875 (cyfwerth ag amser) o ymwelwyr iechyd yng Nghymru; mae staff cymorth hyfforddedig, a chynorthwywyr cymheiriaid bwydo ar y fron hefyd yn cynnig cefnogaeth. Mae gan bob bwrdd iechyd dimau arbenigol sydd ag amrywiaeth o sgiliau, i ddarparu mwy o gefnogaeth, fel y dangosir yn y tabl isod.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan |
6.5 cyfwerth ag amser llawn
(6,376 o enedigaethau bob blwyddyn, yn ôl Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol 2017)
|
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr |
1.6 cyfwerth ag amser llawn, a 2 fydwraig gymunedol sydd wedi cael hyfforddiant pellach ar fwydo ar y fron, sy'n darparu cymorth cynnar fel rhan o wasanaethau bydwreigiaeth gymunedol, gan ganolbwyntio'n benodol ar y 10 diwrnod cyntaf.
(6,981 o enedigaethau bob blwyddyn, yn ôl Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol 2017)
|
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro |
Oriau'r bydwragedd = 1.54 cyfwerth ag amser llawn Oriau'r gweithiwr cymorth bydwreigiaeth = 4.76 cyfwerth ag amser llawn
(5,530 o enedigaethau bob blwyddyn, yn ôl Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol 2017)
|
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg |
1.5 cyfwerth ag amser llawn o gydlynwyr bwydo babanod a nifer o hyrwyddwyr lleol.
(4,800 o enedigaethau bob blwyddyn, yn ôl Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol 2017)
|
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda |
Oriau'r bydwragedd = 1 cyfwerth ag amser llawn
(3,480 o enedigaethau bob blwyddyn, yn ôl Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol 2017)
|
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys |
0.4 cyfwerth ag amser llawn ac 8 Hyrwyddwr Bwydo Babanod ym maes Bydwreigiaeth
(1,109 o enedigaethau bob blwyddyn, yn ôl Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol 2017)
|
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe |
0.5 cyfwerth ag amser llawn a hyrwyddwr penodol ym mhob tîm cymunedol
(3,823 o enedigaethau bob blwyddyn, yn ôl Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol 2017)
|