WAQ78820 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/09/2019

A wnaiff Comisiwn y Cynulliad gadarnhau a yw'n talu Carole Cadwalladr neu unrhyw siaradwyr eraill i fynychu digwyddiadau ar ei ran yng Ngŵyl GWLAD - Gŵyl Cymru'r Dyfodol ac, os felly, darparu'r ffigurau ariannol angenrheidiol?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Cynulliad | Wedi'i ateb ar 30/09/2019

Mae Comisiwn y Cynulliad wedi gweithio mewn partneriaeth â darparwyr a sefydliadau allanol i ddarparu amrywiaeth o weithgareddau yn ystod Gŵyl GWLAD. Mae rhai unigolion sy'n cymryd rhan yng Ngŵyl GWLAD yn cael eu talu, yn bennaf drwy drydydd partïon, gyda nifer fach yn cael eu talu'n uniongyrchol gan Gomisiwn y Cynulliad. Rhagwelwyd mai £29,000 fydd y costau sy'n gysylltiedig â ffioedd perfformwyr, partneriaethau digwyddiadau, gigs cerddoriaeth a chomedi, teithio a llety.