A wnaiff Comisiwn y Cynulliad gadarnhau pwy wnaeth y penderfyniad i ofyn i Carole Cadwalladr fod yn 'siaradwr' y sefydliad ar gyfer sesiwn y Cynulliad gyda Gŵyl y Gelli yng Ngŵyl GWLAD - Gŵyl Cymru'r Dyfodol?
Wedi'i ateb gan Comisiwn y Cynulliad | Wedi'i ateb ar 30/09/2019
Mae rhaglen Gŵyl GWLAD yn cael ei darparu mewn partneriaeth ag ystod o sefydliadau allanol. Un o'n partneriaid yw Gŵyl y Gelli, sydd wedi cytuno i gynnal 'darlith Gŵyl y Gelli', yng Ngŵyl GWLAD.
Carole Cadwalladr yw'r siaradwr a fydd yn traddodi 'darlith Gŵyl y Gelli' yn ystod penwythnos GWLAD a hi enillodd wobr newyddiaduraeth Gŵyl y Gelli eleni. Cafodd y cynnig hwn ei dderbyn gan y Llywydd.