WAQ78812 (w) Wedi’i gyflwyno ar 04/09/2019

A oes gan Lywodraeth Cymru gynllun gweithredu i oresgyn y risg a amlinellir ar dudalen 59 ei chyfrifon cyfunol na fyddai digon o gapasiti i gyflawni 'Cymru Iachach' a'r risg y gallai cyllid ychwanegol gael ei amsugno i gynnal y gweithredu anghynaliadwy presennol?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 19/09/2019

Aethpwyd i’r afael â’r risgiau cychwynnol mewn perthynas ag adnoddau ar gyfer cefnogi’r gwaith o gyflawni Cymru Iachach drwy sefydlu rhaglen drawsnewid graidd yn y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ymgysylltu’n agos â’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydliadau sy’n darparu gofal cymdeithasol, cyllideb rhaglen o hyd at £10 miliwn i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r camau gweithredu yn Cymru Iachach, a’r Gronfa Drawsnewid £100 miliwn i gefnogi’r gwaith o fabwysiadu modelau newydd o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol di-dor. Yn ogystal â hynny, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fframwaith a chanllawiau diwygiedig ar gyfer sefydliadau’r Gwasanaeth Iechyd fel rhan o broses Cynllun Tymor Canolig Integredig 2019-22, er mwyn sicrhau bod y cynlluniau presennol yn ystyried gofynion o ran adnoddau a chyllid.

Ystyriodd y Cabinet ddiweddariad ar y cynnydd yn erbyn Cymru Iachach ym mis Gorffennaf ac mae’r papur hwn wedi cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae dulliau cadarn ar waith i fonitro’r cyllid a neilltuwyd i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ac i lywodraeth leol. Mae gwasanaethau iechyd eisoes o dan bwysau na welwyd mo’i debyg o’r blaen, a byddai Brexit heb gytundeb, di-drefn, yn cael mwy o effaith eto. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi newidiadau sylweddol er mwyn gwneud ein gwasanaethau iechyd a gofal yn gadarn ac yn gynaliadwy.