Beth oedd yr amcangyfrif o gyfanswm y gost o ailalw'r Cynulliad Cenedlaethol yn 2012 i drafod rheoliadau'r dreth gyngor, a'r gyllideb oedd yn gysylltiedig â hynny?
Cafodd y Cynulliad ei alw yn ôl ddydd Mercher 19 Rhagfyr 2012. Roedd y dyddiad hwnnw’n syrthio ym mlwyddyn ariannol 2012-13.
Mae cofnodion ariannol manwl yn ymwneud â chyllideb weithredol Comisiwn y Cynulliad yn cael eu cadw ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol a'r chwe blynedd ariannol flaenorol.
Felly, ni chedwir unrhyw wybodaeth ariannol am gostau yr aed iddynt o gyllideb weithredol Comisiwn y Cynulliad mewn perthynas â'r penderfyniad hwnnw i alw’r Cynulliad yn ôl.
Hawliwyd costau teithio ychwanegol gan yr Aelodau (wedi'u hariannu o Benderfyniad y Bwrdd Taliadau). Fodd bynnag, ni chedwir cofnodion manwl mwyach. Cyhoeddir gwybodaeth gryno am hawliadau teithio unigol a wneir gan Aelodau ar y Gronfa Ddata Lwfansau. Ariannwyd y costau hyn o gyllideb Penderfyniad y Bwrdd Taliadau yn hytrach nag o gyllideb weithredol Comisiwn y Cynulliad.