Beth oedd yr amcangyfrif o gyfanswm y gost o ailalw'r Cynulliad Cenedlaethol yn 2002 yn dilyn marwolaeth y Fam Frenhines, a'r gyllideb oedd yn gysylltiedig â hynny?
Wedi'i ateb gan Comisiwn y Cynulliad | Wedi'i ateb ar 16/09/2019
Cafodd y Cynulliad ei alw yn ôl am sesiwn arbennig ddydd Iau 4 Ebrill 2002. Roedd y dyddiad hwnnw’n syrthio ym mlwyddyn ariannol 2002-03.
Mae cofnodion ariannol manwl yn cael eu cadw ar gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol a'r chwe blynedd ariannol flaenorol.
Felly, ni chedwir unrhyw wybodaeth am gostau sy'n gysylltiedig â'r penderfyniad hwnnw i alw’r Cynulliad yn ôl. Beth bynnag, nid yw Comisiwn y Cynulliad yn cadw gwybodaeth am ddigwyddiadau a gynhaliwyd cyn ei greu yn 2007.