Beth oedd yr amcangyfrif o gyfanswm y gost o ailalw'r Cynulliad Cenedlaethol yn 2016 i drafod yr argyfwng yn y diwydiant dur, a'r gyllideb oedd yn gysylltiedig â hynny?
Cafodd y Cynulliad ei alw yn ôl ddydd Llun 4 Ebrill 2016. Roedd y dyddiad hwnnw’n syrthio ym mlwyddyn ariannol 2016-17.
Roedd y gost ychwanegol i Gomisiwn y Cynulliad a oedd yn gysylltiedig â galw’r Cynulliad Cenedlaethol yn ôl yn deillio o’r angen i wneud taliadau goramser i staff. Roedd angen gwneud taliadau goramser er mwyn paratoi Siambr Hywel ar gyfer y cyfarfod hwnnw. Nid oedd y Senedd ar gael oherwydd y gwaith adnewyddu a oedd wedi’i drefnu. Y gost honno oedd £1,238.47.
Hawliodd yr Aelodau gyfanswm o £821.24 mewn costau ychwanegol ar gyfer teithio (costau a ariannwyd o Benderfyniad y Bwrdd Taliadau).
Mae gwybodaeth am yr hawliadau teithio unigol a wnaed gan Aelodau a ddychwelodd ar gyfer y cyfarfod hwn wedi’i chyhoeddi ar y Gronfa Ddata Lwfansau. Ariannwyd y costau hyn o gyllideb Penderfyniad y Bwrdd Taliadau yn hytrach nag o gyllideb weithredol Comisiwn y Cynulliad.