Beth yw'r amcangyfrif o gyfanswm y gost o ailalw'r Cynulliad Cenedlaethol ar 5 Medi 2019, a'r gyllideb sy'n gysylltiedig â hyn?
Cafodd y Cynulliad ei alw yn ôl ar 5 Medi 2019.
Mae'r gost ychwanegol i Gomisiwn y Cynulliad sy’n gysylltiedig â galw'r Cynulliad Cenedlaethol yn ôl yn debygol o fod yn ymylol, gan fod mwyafrif y costau staffio a’r costau gweithredu yn sefydlog am y flwyddyn gyfan, ac nid yw nifer neu ddosbarthiad y diwrnodau eistedd yn effeithio arnynt. Ni fydd angen gwneud unrhyw daliadau goramser i staff ar gyfer 5 Medi 2019.
Ni fydd y costau terfynol ar gyfer 5 Medi 2019 yn hysbys tan y bydd yr holl anfonebau perthnasol wedi dod i law. Mae’n bosibl y bydd costau ychwanegol yn gysylltiedig ag eitemau fel:
- Chwiliadau diogelwch ychwanegol gan yr heddlu
- Costau teithio'r Aelodau (wedi'u hariannu o Benderfyniad y Bwrdd Taliadau).
Bydd gwybodaeth am yr hawliadau teithio unigol a wnaed gan Aelodau a ddychwelodd ar gyfer y cyfarfod hwn yn cael ei chyhoeddi ar y Gronfa Ddata Lwfansau. Bydd y costau hyn yn cael eu hariannu o gyllideb Penderfyniad y Bwrdd Taliadau yn hytrach nag o gyllideb weithredol Comisiwn y Cynulliad.