Pa gamau y mae'r Gweinidog wedi'u cymryd i sicrhau bod gweithwyr addysg proffesiynol yn cael eu hyfforddi'n briodol ac yn cael llwybr datblygu, i gyflawni pob agwedd ar y cwricwlwm newydd sy’n ymwneud ag iechyd meddwl?
Mae cydnabod a hyrwyddo rhagoriaeth addysgu yn un o'r prif amcanion yn ‘Cenhadaeth ein Cenedl’ ac mae'n hanfodol er mwyn sicrhau bod y cwricwlwm yn gweithio yn ymarferol. Rydym yn benderfynol o gefnogi athrawon yng Nghymru i fod yn ddysgwyr proffesiynol gydol oes sy’n myfyrio ar eu hymarfer eu hunain a’i wella er mwyn cymell ac ysbrydoli’r plant a’r bobl ifanc yn eu gofal. Mae rhan o hynny yn golygu datblygu dull gweithredu cenedlaethol o ymdrin â dysgu proffesiynol gydol gyrfa, sy'n adeiladu capasiti o Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) ac sydd wedi ei wreiddio mewn ymholiadau ar sail tystiolaeth, ymchwil a chydweithio effeithiol, gyda buddiannau eang i’r holl ymarferwyr drwy’r system.
O ran llwybr datblygu i gyflwyno'r agweddau lles a iechyd meddwl yn y cwricwlwm newydd, rydym yn cydnabod bod myfyrwyr AGA angen deall sut y mae plant yn datblygu a gwybodaeth i ddysgu sut i ymdrin â materion sy'n dod i'r amlwg a phryderon ynghylch lles emosiynol a meddyliol i ddysgwyr. Mae’n rhaid i hyn fod yn rhan o ddealltwriaeth ehangach o ryngddibyniaethau sy'n cynnwys ADY a'r ystod o ddulliau gweithredu i ymdrin ag ymddygiad ac addysgeg.
Mae'r cwricwlwm newydd ar gyfer AGA o dan amodau’r meini prawf achredu newydd yn cael ei gyflwyno o fis Medi 2019. Mae'r cwricwlwm hwn yn cynnwys gofyniad i bartneriaethau ddatblygu dulliau o helpu darpar athrawon i reoli eu llesiant eu hunain, yn ogystal â'u gallu i gyfrannu at lesiant y disgyblion yn eu gofal. Nid yw'r meini prawf newydd yn pennu sut y mae partneriaethau i fod i gyflwyno hyn ond mae asesiad o'u dull gweithredu yn ffurfio rhan o'r broses achredu sy'n cael ei chynnal gan y Bwrdd Achredu Addysg Athrawon (TEAB) annibynnol. Er hynny, mae Prifysgolion Cymru, sy'n darparu addysg gychwynnol athrawon, wedi cadarnhau y bydd lles yn rhan o'r maes llafur newydd o fis Medi ymlaen, yn unol â chyflwyno'r cwricwlwm newydd. Ni fydd hwn yn fodiwl ar ei ben ei hun, ond bydd yn treiddio drwy'r holl agweddau ar y maes llafur.
Rydym yn gweithio gyda'r Prifysgolion i gefnogi eu hymdrechion i sicrhau bod adnoddau a chyfleoedd dysgu ar gael i gyfoethogi'r prif raglenni y gall myfyrwyr sy'n rhan o lawer o raglenni addysg a rhaglenni cysylltiedig gael mynediad atynt drwy ein Prifysgolion. Gan weithio drwy Gyngor y Prifysgolion ac Ysgolion ar gyfer Addysgu Athrawon (USCET) Cymru, rydym yn datblygu deunyddiau a fydd, o dan y rhaglenni achrededig ar hyn o bryd, yn wirfoddol a/neu'n hybu cyfoethogi. Bydd angen sicrhau hefyd fod unrhyw ddeunydd yn cyd-fynd â’r maes llafur AGA presennol.
Bydd unrhyw ddatblygiadau polisi sy'n ymwneud ag iechyd meddwl a lles a'u hymgorfforiad i raglenni AGA yn fater i TEAB ei asesu yn ystod y rhaglen achredu.
Ar gyfer yr ymarferwyr hynny sy'n gadael addysg gychwynnol athrawon ac yn symud ymlaen i flynyddoedd cynnar eu gyrfa, rydym hefyd yn adolygu trefniadau ymsefydlu er mwyn sicrhau bod darpariaeth yn y dyfodol yn ychwanegu at y rhaglenni AGA newydd ac yn darparu cyfleoedd o ran dilyniant i athrawon newydd gymhwyso ddatblygu eu hymarfer ymhellach. Byddwn yn ystyried unrhyw gyfleoedd i atgyfnerthu gwybodaeth athrawon newydd gymhwyso er mwyn darparu'r cwricwlwm newydd, gan gynnwys yr agweddau ar iechyd meddwl, fel rhan o'r trefniadau diwygiedig.
Ar gyfer ymarferwyr mewn swydd, mae ein dull gweithredu pwrpasol "a wnaed yng Nghymru" mewn perthynas â dysgu proffesiynol yn garreg filltir allweddol ar ein taith yn diwygio addysg. Mae'n Dull Cenedlaethol o Ddysgu Proffesiynol (NAPL) yn sicrhau bod ein safonau proffesiynol newydd, ein hanogaeth i ysgolion weithio fel sefydliadau dysgu a'r model dysgu proffesiynol yn cyd-fynd â'i gilydd, ac fe'i hadwaenir bellach fel y Fframwaith Cenedlaethol sy'n cwmpasu'r holl waith cynllunio a darparu dysgu proffesiynol.
Mae cyllid o £24m wedi'i ddarparu i sicrhau bod pob ymarferwr yn barod ar gyfer y cwricwlwm newydd. Gellir defnyddio'r cyllid hwn mewn modd hyblyg er mwyn caniatáu i ysgolion weithio gyda'i gilydd mewn ffyrdd sy'n addas i'w hamgylchiadau.
Rydym hefyd wedi cydnabod pwysigrwydd creu'r amser a'r lle i ymarferwyr ac arweinwyr weithio gyda'i gilydd ar draws ysgolion a rhwydweithiau er mwyn paratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd. Dyma pam rydym wedi cynnig a gweithrerdu ar ddarparu diwrnodau HMS ychwanegol (un diwrnod y flwyddyn am y tair blynedd academaidd nesaf), gan ein bod yn cydnabod yr angen i ddarparu amser ychwanegol drwy'r ysgol gyfan er mwyn i bob ymarferydd allu gwneud hyn.
Er mwyn adeiladu'r is-adeiledd ategol ar gyfer dysgu proffesiynol, rydym hefyd yn cydweithio ag ymarferwyr i ddatblygu adnoddau digidol i gefnogi rhaglen ddysgu broffesiynol gyffredin ar gyfer diwygio'r cwricwlwm; yn ogystal â datblygu rhwydweithiau cenedlaethol newydd sy'n cyd-fynd â'r meysydd dysgu a phrofiad. Bydd y rhwydweithiau yn sianeli i ymgysylltu â'r sector ehangach i sicrhau bod pob ymarferwr yn cael cymorth i ddatblygu ei sgiliau a'i wybodaeth ymhellach er mwyn cyflwyno'r cwricwlwm newydd.
Yn ystod cyfnod mireinio’r cwricwlwm newydd, bydd yn cymryd amser i ddatblygu ein dealltwriaeth o'r heriau a wynebir o ran dysgu proffesiynol wrth weithredu'r cwricwlwm mewn ysgolion. Ers yr hydref diwethaf, mae arloeswyr wedi ymwneud â'r cwricwlwm newydd drwy gylchoedd ymholi gweithredol gyda chefnogaeth partneriaid addysg uwch (Prifysgol Metropolitan Caerdydd oedd yn arwain ar y Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh) Iechyd a Lles). Yn ystod tymor y gwanwyn, estynnwyd y cylchoedd ymholii'r gymuned ehangach o ysgolion, wrth i rai arloeswyr ganolbwyntio ar weithredu newidiadau mewn ysgolion, sy'n cynnwys trefniadaeth fewnol, amserlennu ac arbenigaeth mewn pynciau.
Roedd arloeswyr a oedd yn arwain ymholiadau ynghylch MDPh Iechyd a Lles yn canolbwyntio ar sut y bydd angen i ysgolion ddatblygu a chynllunio eu cwricwlwm ysgol er mwyn cyflwyno'r MDPh hwn, ac edrych ar sut y gall llais y disgybl, cysylltiadau â'r gymuned ac asiantaethau allanol lywio'r cwricwlwm ar gyfer Iechyd a Lles. Mae adborth cynnar yn adlewyrchu'r ffaith bod ymarferwyr yn falch fod iechyd a lles yr un mor bwysig o fewn y Meysydd Dysgu a Phrofiad eraill, ac yn cydnabod bod y MDPh yn darparu cydbwysedd priodol rhwng datblygu gwybodaeth a sgiliau a'r angen i fod yn greadigol o ran cyflwyno'r MDPh hwn er mwyn darparu profiadau cyfoethog a dilys i'r holl ddisgyblion.
Ar drothwy ail flwyddyn y rhaglen ymholiadau proffesiynol, bydd gan y consortia rhanbarthol ffyrdd amrywiol o rannu allbynnau ymholiadau allweddol fel rhan o'r cynnig dysgu proffesiynol ehangach. Rydym yn cydweithio â'r rhanbarthau er mwyn sicrhau bod y berthynas rhwng yr arloeswyr a'r gymuned o ysgolion ehangach yn gweithio i'r holl ymarferwyr, gan symud tuag at raglen genedlaethol o ymholiadau proffesiynol gan athrawon i gefnogi newid i system hunanwella.