A wnaiff Comisiwn y Cynulliad gadarnhau pa Aelodau o’r Cynulliad a gafodd wahoddiad i gymryd rhan yn y digwyddiadau trafod panel a gynhaliwyd ym Mhabell y Cynulliad yn Eisteddfod 2019 naill ai fel cadeirydd neu gyfranogwr?
Cynhaliwyd llawer mwy o ddigwyddiadau yn y pabell na’r hyn a drefnwyd gan Gomisiwn y Cynulliad. Felly, nid yw'n bosibl darparu gwybodaeth ynghylch pwy gafodd eu gwahodd i gymryd rhan yn yr holl ddigwyddiadau hynny gan bartneriaid eraill.
Mae’r dull ar gyfer trefnu bod Aelodau'r Cynulliad yn cymryd rhan mewn digwyddiadau perthnasol a drefnir gan Gomisiwn y Cynulliad yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol wedi’i amlinellu isod. Er mwyn cydymffurfio â pholisi iaith yr Eisteddfod, roedd yr Aelodau a gafodd wahoddiad yn rhai a oedd yn gallu cymryd rhan drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Enwebwyd Delyth Jewell AC gan Gadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu fel cynrychiolydd y Pwyllgor ar gyfer y drafodaeth banel a gynhaliwyd ddydd Llun 5 Awst, sef 'Deall ein hanes – Addysgu hanes a diwylliant Cymru'.
- Gofynnodd Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth i Bethan Sayed gymryd rhan yn y drafodaeth banel a gynhaliwyd ddydd Mercher 6 Awst, gan ei bod yn gyn-fyfyriwr yn yr Adran a’r Brifysgol. Fodd bynnag, nid oedd yn gallu bod yn bresennol.
- Gofynnwyd i'r Llywydd gynrychioli’r Cynulliad ar y panel ar gyfer y digwyddiad a gynhaliwyd ddydd Iau 8 Awst, sef 'Menywod a datganoli yng Nghymru'.
- Awgrymodd Tîm Clercio’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y dylem ofyn i Llyr Gruffydd AC gynrychioli'r Pwyllgor ar y panel ar gyfer y digwyddiad a gynhaliwyd gan Senedd Ieuenctid Cymru ddydd Gwener 9 Awst, sef 'Beth i'w wneud gyda'n gwastraff?'