WAQ78744 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/08/2019

A wnaiff Comisiwn y Cynulliad gadarnhau a oedd gwasanaethau cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gael ar gyfer yr holl ddigwyddiadau a lwyfannwyd ym Mhabell y Cynulliad yn Eisteddfod 2019, ac os na, a wnewch chi restru’r digwyddiadau hynny lle nad oedd cyfieithu ar gael?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Cynulliad | Wedi'i ateb ar 16/09/2019

Darparodd y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi wasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i’r Saesneg ar gyfer pob sesiwn a drefnwyd gan Gomisiwn y Cynulliad.

Cafodd yr holl sesiynau eraill a gynhaliwyd yn nau Bafiliwn y Cymdeithasau (roedd tua wyth ohonynt bob dydd) gan yr Eisteddfod, gyda'r gwahanol bartneriaid yn gwneud eu trefniadau eu hunain ar gyfer cyfieithu ar y pryd.